Dirprwy Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Lefel Uwch BESD

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern • Cardiff, Wales • Posted July 14, 2026

About the Role

DisgrifiadCyflogwrLleoliad

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig a medrus i ymuno â’n tîm cynhwysiant fel Dirprwy Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Lefel Uwch (BESD). Bydd y deiliad swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol i oresgyn rhwystrau i ddysgu, gan weithio’n agos gyda staff addysgu, rhieni, asiantaethau allanol a’r tîm ADY ehangach. 

Bydd y rôl yn cynnwys arwain a chydlynu darpariaeth gymorth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Disgwylir i’r ymgeisydd gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau unigol, monitro cynnydd disgyblion, trefnu mentora, ac arwain strategaethau sy’n hyrwyddo presenoldeb, ymgysylltiad a lles.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad sylweddol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd dysgu, ynghyd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Dylai’r ymgeisydd feddu...