Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 3
Ysgol Llanhari • Pontyclun, Wales • Posted July 01, 2026
About the Role
Ysgol Llanhari
Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 3
I weithio fel Cynorthwy-ydd yn yr adran uwchradd
Cyflog Graddfa 6 APT&C
Swydd Barhaol
32.5 awr yr wythnos (tymor yr ysgol yn unig)
Dyddiad cychwyn: 1 Medi 2026
Ydych chi am wneud gwahaniaeth?
Rydym yn awyddus iawn i groesawu aelodau newydd i’n tȋm cynnal disgyblion yn Ysgol Llanhari.
Croesewir ceisiadau gan gynorthwy-wyr profiadol ac hefyd gan unigolion brwdfrydig sydd am weithio yn y maes hwn. Fel rhan o’r swydd bydd cyfle i redeg ymyraethau lles, gweithio yn ein darpariaeth Cam 4 a chynorthwyo disgyblion mewn gwersi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff dysgu a’r Tîm Arwain, ac yn cydweithio’n agos gyda phlant a rhieni yr ysgol er mwyn sicrhau ethos gynhaliol a safonau uchel. Mae Ysgol Llanhari yn ysgol bob oed sy’n addysgu disgyb...